R. S. Thomas
Yn sgil penodi R.S. Thomas yn Athro er Anrhydedd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor, sefydlwyd Canolfan Astudiaeth arbennig er mwyn cydnabod cyfraniad aruthrol y bardd a hybu ymchwil ar ei waith.
Ceir yn
y Ganolfan archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R.S. Thomas, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, erthyglau a llyfrau beirniadol,
cyfweliadau a deunydd clywedol.
Y mae'r archif ar gael at ddefnydd ymchwilwyr ar ymweliad.
Cewch wybodaeth lawn ynghylch natur a chynnwys y Ganolfan ar y tudalennau hyn.