Hanes y Ganolfan
Syniad
gan yr Athro Gwyn Thomas, yn sgil penodi R.S. Thomas yn Athro er
Anrhydedd yn yr Adran Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor, ym 1998,
a roddodd fod i'r Ganolfan Ymchwil hon. Datblygwyd y syniad ar y
cyd gan Jason Walford Davies o'r Adran Gymraeg a Tony Brown o'r
Adran Saesneg.

Cafwyd
cefnogaeth ariannol er adnewyddu a dodrefnu ystafell addas yn y
Brif Lyfrgell gan Bwyllgor Ymchwil y Brifysgol a chan Ganolfan Ymchwil
y Dyniaethau. Gorffennwyd y gwaith ym 1999 ac agorwyd y Ganolfan
yn swyddogol gan R.S. Thomas ei hun ym mis Ebrill 2000.
|