Daliadau
Y mae gan y Ganolfan nifer sylweddol o lawysgrifau R.S. Thomas, ac ynddynt farddoniaeth a rhyddiaith anghyhoeddedig. Ceir yn y casgliad hefyd ddeunydd gan wraig Thomas, M.E. (Elsi) Eldridge, yn cynnwys ei llyfrau brasluniau a’i dyddlyfrau anghyhoeddedig. Y mae yn yr archif gopïau o holl weithiau cyhoeddedig R.S. Thomas – yn eu plith argraffiadau prin a chyfieithiadau – ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, cyfrolau ac ysgrifau beirniadol, torion papur newydd, recordiadau a deunydd fideo.

Y
mae'r deunydd hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr sy'n gwneud graddau
ymchwil ar R.S. Thomas ym Mangor, naill ai yn yr Adran Gymraeg neu
yn yr Adran Saesneg, a hefyd ar gyfer ysgolheigion ar ymweliad a
myfyrwyr ymchwil cofrestredig o sefydliadau eraill.
|